Tekst piosenki:
Mae ‘na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro,
rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro.
Rhywbeth amdanat ti na fedrai ddianc rhagddo,
rhywbeth amdanat ti na fedrai fyth anghofio.
Wrth weld y casineb fel cancr ym mhob gwlad,
a gweld y diniwed yn nofio yn y gwaed,
wrth weld y nos yn cau allan y dydd
fyddai’m yn colli fydd,
amser hynny fyddai'n diolch…
Fod 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro,
rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro.
Rhywbeth amdanat ti na fedrai ddianc rhagddo,
rhywbeth amdanat ti na fedrai fyth anghofio.
Wrth weld y tyrrau uchel yn syrthio i'r llawr,
a chlywed gelynion yn herio efo'i geiriau mawr,
wrth weld y byd 'ma ar dan ac yn mynd o'i go
fyddaim yn anobeithio,
amser hynny fyddai'n diolch…
Mae 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro,
rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro.
Ti yw'r harbwr diogel yng nghanol y storm,
Ti yw'r breichiau cadarn i’m cadw rhag ofn,
O, i’m cadw i rhag ofn….
Mae 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro,
rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro.
Rhywbeth amdanat ti sy'n wahanol i bawb arall,
Rhywbeth amdanat ti sy'n 'ngwneud i'n llawer cryfach.
Rhywbeth amdanat ti, rhywbeth amdanat ti, rhywbeth amdanat ti…
Dodaj adnotację do tego tekstu »
Historia edycji tekstu
Komentarze (0):